
Ein Stori
Galluogi plant i archwilio, dysgu a thyfu ym myd natur.

Manteision o gysylltu â Natur
Mae llawer o astudiaethau cyhoeddedig, gan gynnwys Astudiaeth Prifysgol Plymouth ar ‘Ddysgu yn yr Awyr Agored’, yn cydnabod manteision dysgu ym myd natur.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi bod angen hwyluso gweithgareddau sy’n hyrwyddo iechyd a lles plant yng Nghymru yn y dyfodol; ac mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn nodi y gall “cynnydd dysgwyr yn y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles effeithio’n ehangach ar eu dilyniant”.
Dechreuwyd cynnal gweithgareddau Plentyn Natur yn 2021, fel ymateb i anghenion plant yn Ysgol Iau Mount Street yn Aberhonddu, gan ddod allan o gyfnodau hir o gloi oherwydd Covid 19.
​
Ar ôl gweld effeithiau negyddol o orddefnydd technoleg, cynigiodd dwy athrawes a oedd yn berchen ar ardaloedd bach o goetir a dôl gerllaw, i’w defnyddio fel mannau dysgu a lles.
​
Wedi ymrwymo i ddatblygu darpariaeth awyr agored arloesol, gwnaeth Ysgol Iau Mount Street brosiect peilot bach yn bosibl. Yna, dechreuodd y cysyniad o Blentyn Natur dyfu.Daeth athrawon, rhieni a phlant at ei gilydd a chodi’r arian i dalu am y teithiau bws byr i safle Long Meadow. Helpodd gwirfoddolwyr i wneud y tir yn ddiogel a helpu gyda gweithgareddau, gan wneud sesiynau i’r plant yn yr ysgol yn bosibl drwy’r gwanwyn, yr haf a’r hydref.
​
Cynhaliodd y plant a’r athrawon amrywiaeth o weithgareddau dysgu yn eu ‘ystafell ddosbarth Natur’ newydd, wedi’u gwella gan arbenigedd ysgolion coedwig leol ac arweinwyr dysgu yn yr awyr agored. Cofnodwyd arsylwadau athrawon ac ymatebion y plant a chynhaliwyd arolygon plant, er mwyn ceisio gwerthuso’r manteision o’r sesiynau. Roedd y gwerthusiad yn canolbwyntio ar gymhelliant, deilliannau dysgu a theimladau o heddwch a lles mewnol. Roedd y canlyniadau’n ysbrydoledig. Felly, penderfynasom geisio troi’r peilot yn ymarfer parhaol. Ffurfiwyd Cwmni Buddiannau Cymunedol Plantyn Natur er mwyn ei gwneud yn bosibl.
Rydym bellach yn codi arian i ddechrau cam nesaf y daith: cynllun peilot estynedig, sy’n archwilio effaith y gall profiadau dysgu rheolaidd mewn mannau gwyllt ei chael pan gânt eu gweithredu yn y Cwricwlwm Cynradd; ehangach, sut y gellir addasu’r profiadau hyn er budd grwpiau plant eraill a theuluoedd yn ein cymuned.
Drwy weithgareddau Plentyn Natur, ein nod yw gwneud ein cyfraniad bach ein hunain at hyrwyddo’r amcanion hyn a chreu dyfodol hapusach a fwy iachus i’r plant yn ein cymuned.
Ein Nodau

Galluogi plant i archwilio, dysgu a thyfu ym myd natur.
​
-
Galluogi plant i ymgysylltu â’r byd naturiol, eu hunain ac eraill mewn ffyrdd cadarnhaol.
-
Darparu gweithgareddau sy’n cynyddu lles, cyflawniad a gwydnwch.
-
Bod o werth i ysgolion lleol a grwpiau eraill drwy ysgogi, ymestyn a gwella agweddau o addysg plant.
-
Creu cyfleoedd i rieni a gofalwyr fwynhau profiadau dysgu gwyllt gyda’u plant.
-
Cynnwys y gymuned leol yng ngofal ac addysg eu plant drwy rannu tir a chyfleoedd gwaith neu wirfoddoli.


Manteision o gysylltu â Natur
Mae llawer o astudiaethau cyhoeddedig, gan gynnwys Astudiaeth Prifysgol Plymouth ar ‘Ddysgu yn yr Awyr Agored’, yn cydnabod manteision dysgu ym myd natur.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi bod angen hwyluso gweithgareddau sy’n hyrwyddo iechyd a lles plant yng Nghymru yn y dyfodol; ac mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn nodi y gall “cynnydd dysgwyr yn y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles effeithio’n ehangach ar eu dilyniant”.
​
Mae astudiaeth Sarah Blackwell, ‘Effeithiau rhaglenni Ysgol Goedwig hirdymor ar gadernid, hyder a lles plant’, yn cyfeirio at nifer o bapurau ymchwil, i gyd yn atgyfnerthu’r casgliad bod chwarae, archwilio a dysgu yn yr awyr agored nid yn unig o fudd i blant ifanc ond bod eu hangen ar frys. Yn yr Alban, mae Cwricwlwm Rhagoriaeth drwy Ddysgu yn yr Awyr Agored 2010 yn darparu arweiniad ac enghreifftiau o arfer da i helpu addysgwyr i ymgorffori profiadau dysgu yn yr awyr agored o fewn eu cwricwlwm.
​
Drwy weithgareddau Plentyn Natur, ein nod yw gwneud ein cyfraniad bach ein hunain at hyrwyddo’r amcanion hyn a chreu dyfodol hapusach a fwy iachus i’r plant yn ein cymuned.
Sut y gallwch chi helpu

Gwirfoddolwr
Rydym yn hynod ddiolchgar i’n gwirfoddolwyr, sy’n dod â chymaint o lawenydd, brwdfrydedd a sgiliau i’n prosiect. Os hoffech gymryd rhan mewn diwrnodau cynnal a chadw a datblygu safleoedd, helpu gyda digwyddiadau neu gymryd rhan yn y gwaith o wneud adnoddau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Codi arian
Byddem wrth ein bodd pe gallech gynnig syniadau neu brofiad codi arian. Roedd ein diwrnod codi arian cychwynnol yn gymaint o hwyl ac yn cael ei gefnogi’n hael gan y gymuned. Bydd angen llawer mwy arnom wrth i’r prosiect barhau a byddai eich help yn cael ei werthfawrogi’n fawr.

Rhoddion
Mae Plentyn Natur yn dibynnu’n bennaf ar grantiau a rhoddion i wneud yr hyn a wnawn yn bosibl. Os gallwch chi neu’ch busnes wneud cyfraniad i’n gwaith, rydym yn addo y bydd pob ceiniog yn cael ei gwario’n gyfrifol ar alluogi ein plant ifanc i ffynnu ac y byddwn yn rhoi gwybod i chi sut yn union yr ydych wedi helpu. Diolch!